Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 9 Rhagfyr 2021
Amser:
09.15 -
14.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12702
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Mike Hedges AS (yn lle Buffy Williams AS) Sioned Williams AS (yn lle Siân Gwenllian AS) |
Tystion: |
Jeff Protheroe, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Arwyn Watkins, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Kathryn Robson, Addysg Oedolion Cymru John Graystone, Addysg Oedolion Cymru David Notley, Innovation Advisory Council for Wales (IACW) Yr Athro Hywel Thomas, Cymdeithas Ddysgedig Yr Athro Helen Fulton, Cymdeithas Ddysgedig Alastair Delaney, Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch James Harrison, Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch David Gale, Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch Jassa Scott, Estyn Jackie Gapper, Estyn Mary van den Heuvel, Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru Rebecca Williams, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC) Jamie Insole, Undeb Prifysgolion a Cholegau Lynne Hackett, UNISON Cymru Neil Butler, The National Association of Schoolmasters Union of Women Teachers (NASUWT) |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Jennifer Cottle (Cynghorydd Cyfreithiol) Phil Boshier (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv.
1.3 Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS, dirprwyodd Mike Hedges AS ar ei rhan. Fel y cytunwyd, roedd Sioned Williams AS yn dirprwyo ar ran Sian Gwenllian AS ar gyfer y cyfarfod hwn.
1.4 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Sioned Williams AS fod ei gŵr yn cael ei gyflogi gan Brifysgol Abertawe a’i fod yn Aelod o UCU ac yn gymrawd o'r Gymdeithas Ddysgedig.
2 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 7
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru ac Addysg Oedolion Cymru.
2.2 Datganodd John Graystone o Addysg Oedolion Cymru ei fod yn Aelod o Gyngor CCAUC ac yn Llywodraethwr Coleg AB.
2.3 Cytunodd Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru i ddarparu union nifer y prentisiaethau uwch lefel 4 a 5 a ddarperir ar hyn o bryd.
3 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 8
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cyngor Cynghori Cymru ar Arloesi (CCCA) a'r Gymdeithas Ddysgedig.
4 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 9
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o'r Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer Addysg Uwch ac Estyn.
5 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - sesiwn dystiolaeth 10
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o’r undebau llafur.
6 Papurau i'w nodi
6.1 Cafodd y papurau eu nodi.
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) - trafod y dystiolaeth
8.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywodd yn y sesiynau tystiolaeth blaenorol.
9 Cyflwyniad ar broses gwrandawiadau cyn penodi
9.1 Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad ar y broses gwrandawiad cyn penodi.